Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cyhoeddi ei fod yn rhedeg allan o arian ar gyfer ei raglen addysgol fwyaf, Erasmus.
Ni fydd y rhaglen, sy’n sicrhau cyfnewid myfyrwyr cilyddol rhwng aelod-wledydd yr UE a gwledydd cyfagos yn gallu parhau ar ôl y flwyddyn nesaf os bydd aelod-wledydd yn methu â throsglwyddo arian i’r UE.
Twrci yw un o'r gwledydd sy'n elwa fwyaf o'r rhaglen. Y llynedd astudiodd mwy na 10,000 o fyfyrwyr Twrcaidd yn Ewrop drwy Erasmus, a dewisodd 4,288 o fyfyrwyr Ewropeaidd astudio yn Nhwrci.
(Hürriyet Daily News)


